Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dai
15 Mai 2023
Yn bresennol:
Enw |
Sefydliad |
|
Enw |
Sefydliad |
Mabon ap Gwynfor AS |
Senedd Cymru (Cadeirydd) |
|
Elizabeth Taylor |
TPAS Cymru |
Ruth Power |
Shelter Cymru |
|
Sara Burch |
Cyngor Sir Fynwy |
Jennie Bibbings |
Shelter Cymru |
|
Amy Lee Pierce |
Y Wallich |
Matthew Palmer |
Shelter Cymru |
|
Kathryn Morgan |
Shared Lives Plus |
Wendy Dearden |
Shelter Cymru |
|
Lu Thomas |
Sipsiwn a Theithwyr Cymru |
Elen Grantham |
Shelter Cymru |
|
Philippa Richards |
Y Senedd |
Ross Thomas |
Tai Pawb |
|
Matt Harris |
Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi |
Bill Rowlands |
EYHC |
|
Carolyn Thomas |
Y Senedd |
Matthew Dicks |
CIH Cymru |
|
Donna Oldfield |
Sipsiwn a Theithwyr Cymru |
Cerys Clark |
CIH Cymru |
|
Faye Patton |
Gofal a Thrwsio Cymru |
Y Cynghorydd Alun Llewelyn |
Cyngor Castell-nedd Port Talbot |
|
Y Cynghorydd David Daniels |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen |
Ryland Doyle |
Swyddfa Mike Hedges AS |
|
Gareth Lyn Montes |
Cyngor Ffoaduriaid Cymru |
Robert Smith |
Prifysgol Caerdydd |
|
Thomas Hollick |
Y Wallich |
Tim Thomas |
Propertymark |
|
Natalie Thompson |
Cyngor Dinas Casnewydd |
Carys Fôn Williams |
Cyngor Gwynedd |
|
Carolyn Johnstone |
Byddin yr Iachawdwriaeth |
Becky Ricketts |
Gofal a Thrwsio Cymru |
|
Bethany Howells |
Prifysgol Caerdydd |
Ceri Cryer |
Age Cymru |
|
Casey Edwards |
Cwmpas |
David Bithell |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam |
|
Andy Thompson |
Cyngor Sir Powys |
Katie Dalton |
Cymorth Cymru |
|
Y Cynghorydd Emily Owen |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy |
Manon Roberts |
Iechyd Cyhoeddus Cymru |
|
Y Cynghorydd Shayne Cook |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili |
Jasmine Harris |
Crisis |
|
|
|
Eitem ar yr agenda |
Nodiadau |
Croeso gan y Cadeirydd |
Croesawodd Mabon ap Gwynfor AS bawb i’r cyfarfod cyn amlinellu agenda’r sesiwn a throsglwyddo’r awenau i’r cyflwynwyr. |
Y Cysylltiadau rhwng Tai ac Iechyd |
Bydd cyflwyniad pob siaradwr ar gael fel dogfen ar wahân.
Cyflwyniad 1: Cyflwr Tai Pobl Hŷn yng Nghymru Becky Ricketts a Faye Patton, Gofal a Thrwsio Cymru
Gellir gweld yr adroddiad yma: https://careandrepair.org.uk/cy/tai2023/
Mae Gofal a Thrwsio yn cynnal Gwiriadau Cartrefi Iach yng nghartrefi pobl hŷn ac, yn ddiweddar, mae wedi canolbwyntio ar 3 phrif wasanaeth/prosiect: 1. Ysbyty i Gartref Iachach 2. Ymdopi'n Well 3. A yw eich cartref yn ddigon cynnes?
Mae cryn dipyn o alw am gwasanaethau Gofal a Thrwsio ac yn gynyddol mae’r asiantaeth yn gweld anghenion mwy cymhleth a phroblemau atgyweirio mawr.
Mae ymweliadau â chartrefi yn aml yn dangos materion ychwanegol a phroblemau cymhleth, lluosog sy'n fwy na’r hyn a dybiwyd yn wreiddiol.
Roedd lluniau o dai mewn cyflwr gwael a ddangoswyd yn y cyflwyniad yn syfrdanol. Dysgodd pobl i ymdopi â byw gartref yn ystod cyfyngiadau’r pandemig a daethant i arfer â rheoli adfeiliad a byw gydag ef nes iddo ddod yn normal. Mae cost gynyddol deunyddiau a'r diffyg crefftwyr sydd ar gael i wneud y gwaith yn faterion mawr i'r asiantaeth a'i chleientiaid.
Cyflwyniad 2: Gohirio Iechyd Meddwl – Effaith Tai Gwael ar Iechyd Meddwl. Amy Lee Pierce a Thomas Hollick, Y Wallich
Gellir gweld yr adroddiad yma: https://thewallich.com/cy/campaigns/gohirio-iechyd-meddwl/
Canolbwyntiodd y cyflwyniad ar yr argyfwng iechyd meddwl ymysg pobl ddigartref. Trwy arolygon staff, nododd y Wallich fod y broses o gael cymorth iechyd meddwl mewn argyfwng yn anodd, a bod hynny’n arwain at fwy o alw ar wasanaethau brys.
Rhannwyd methodoleg, ystadegau allweddol a chanfyddiadau. Rhwng 2019 a 2022, deliodd y Wallich â chyfanswm o 4,216 o ddigwyddiadau a oedd yn aml yn arwain at sefyllfa o argyfwng. Y gwir amdani yw bod pobl mewn argyfwng iechyd meddwl yn wynebu rhwystrau di-rif o ran cael mynediad at wasanaethau’n gyflym. Dylai’r Fframwaith i Gymru sy’n Ystyriol o Drawma gael ei gymhwyso i wasanaethau iechyd meddwl hefyd.
|
Fforwm |
Adroddiadau
Ross Thomas (Tai Pawb) - croesawodd yr adroddiadau. Mae tai yn benderfynydd iechyd ond nid yw hyn yn dod drwodd mewn polisi – mae angen canolbwyntio ar hyn. Mae argyfwng tai hygyrch ar ben yr argyfwng tai. Dylai’r hawl i gael tai digonol gael ei gwreiddio fel hawl ddynol.
Sarah Burch (Sir Fynwy) – a oes rôl i ryddhau ecwiti o ran gwella cartrefi?
Becky Ricketts - Mae Gofal a Thrwsio yn canolbwyntio ar wella cartrefi heb i bobl orfod eu gadael. Mae’n bosibl y bydd angen gwerth y cartref ar rhai i dalu am ofal yn ddiweddarach.
Jennie Bibbings (Shelter Cymru) – Dylem gofio bod addasrwydd tai yn effeithio ar iechyd meddwl.
Thomas Hollick – Mae angen i gymorth gael ei integreiddio i gynlluniau Tai yn Gyntaf.
Katie Dalton (Cymorth Cymru) - Mae cyfrifoldeb am Ailgartrefu Cyflym yn disgyn ar ysgwyddau timau sydd eisoes yn straffaglu. Mae angen buddsoddiad cyfalaf a chefnogaeth gyffredinol.
Cyllideb Llywodraeth Cymru 2023/24 Trafodwyd y gyllideb yn y cyfarfod diwethaf ac mae bellach wedi’i setlo. Codwyd materion mewn llythyr at y Gweinidog Cyllid, gan gynnwys: · Cyllid ar gyfer datgarboneiddio’r stoc tai – cynyddwyd y cyllid · Grant Cymorth Tai – heb ei gynyddu
Katie Dalton - Mae'n siom i’r sector beidio â chael cynnydd yn y Grant Cymorth Tai. Yn anochel, bydd effaith ar y sector, sy’n peri pryder. Mae darparwyr cymorth bellach mewn trafodaethau â Chomisiynwyr Awdurdodau Lleol. Y realiti debygol fydd llai o wasanaethau, er gwaetha’r ffaith bod y galw eisoes yn fwy na'r cyflenwad. Bydd hefyd yn golygu gostyngiadau yn niferoedd staff. Ni all cyflenwyr fforddio rhedeg eu gwasanaethau.
CAM GWEITHREDU: Cytunwyd y byddai llythyr dilynol yn cael ei anfon yn gofyn i'r Llywodraeth sut y bydd yn cynorthwyo'r sector.
|
Cloi'r cyfarfod |
Diolchodd Mabon ap Gwynfor AS y bobl bresennol a’r siaradwyr.
Atgoffodd Mabon bawb y bydd y cofnodion ar gael gan Shelter Cymru maes o law a daeth â'r cyfarfod i ben.
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf |
Dydd Llun 2 Hydref 2023, 09.30-10.30 ar Teams |